Beth yw dyfodol ‘gwneud lles’ yng Nghymru?

Dyma gyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru John Rose yn esbonio sut rydym eisiau gwneud dewisiadau gwych i gymunedau ar hyd a lled Cymru trwy ddeall ‘dyfodol gwneud lles’ yn well.

Beth a olygwn wrth ‘wneud lles’?

I mi, mae’n ymwneud ag adeiladu ewyllys dda ac ymddiriedaeth trwy ddealltwriaeth a rennir o heriau a blaenoriaethau’r rhai sy’n byw yno. Mae’n ymwneud â gofalu am les dinasyddion, cefnogi nhw i gymryd camau gweithredu a grymuso nhw i gymryd rhan mewn gwneud y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.

Gellir dadlau mai mater i bawb yw ‘gwneud lles’. Mae cymunedau, unigolion, y trydydd sector a’r sectorau cyhoeddus a phreifat i gyd yn chwarae rhan yn yr agenda o wneud Cymru’n lle gwell i fyw. Creda’r Gronfa Loteri Fawr y dylai pobl arwain y newid hwnnw i wella’u bywydau trwy alw ar y sgiliau, asedau ac egni yn eu cymunedau. Rydym yn dosbarthu tua £40 miliwn yng Nghymru bob blwyddyn i brosiectau sy’n gwneud y newidiadau y mae cymunedau eisiau eu gweld.

Mewn partneriaeth â Sefydliad Bevan, rydym yn estyn allan i drawstoriad eang o gymdeithas Cymru wrth feddwl am sut y gallai dyfodol ‘gwneud lles’ edrych yng Nghymru. Fel rhan o sgwrs Deyrnas Unedig gyfan, rydym yn sbarduno trafodaeth gyda chymunedau, elusennau, mentrau cymdeithasol, y llywodraeth a busnesau. Er bod gennym syniad da o beth yw’r heriau, nid oes gennym yr holl atebion, felly dyma rai cwestiynau i roi sbardun i’r drafodaeth.

future-of-doing-good-welsh-image

Beth yw rôl y llywodraeth mewn ‘gwneud lles’ yn y dyfodol?

Yn hanesyddol mae’r Llywodraeth wedi canolbwyntio ar ymdrin ag angen yn hytrach na’i atal rhag codi yn y lle cyntaf. Mae dirywiad diwydiannau traddodiadol Cymru a globaleiddio cynyddol yn golygu bod anghenion Cymru’n fwy cymhleth. Ond mae’r dirwasgiad economaidd a chyfyngiadau ar y gyllideb yn y sector cyhoeddus wedi rhwystro gallu’r llywodraeth i ymateb. Yr ymateb polisi cyhoeddus hyd yma yw symud yn araf iawn tuag at atal, ond mae delio gydag anghenion ‘yma a nawr’ yn golygu bod hyn yn her fawr. Mae’n golygu bod y llywodraeth yn gofyn i gymunedau a’r trydydd sector ymgymryd â mwy o rôl arweiniol, ond a ydynt mewn sefyllfa i wneud hyn?

All y trydydd sector yng Nghymru wneud mwy?

Mae trydydd sector sy’n dibynnu’n sylweddol ar arian cyhoeddus hefyd wedi profi caledi ariannol, ar adeg pan fydd disgwyliadau a’r galw am wasanaethau’n cynyddu. Erbyn hyn mae cyllid gan y llywodraeth yn llawer mwy tebygol o fod ar gyfer prosiectau penodol sydd wedi ei alinio â’i blaenoriaethau, ac o ganlyniad i hyn mae rhai’n codi cwestiynau am annibyniaeth y trydydd sector. Ydy hyn wedi cyfaddawdu ei rôl fel ‘cyfaill beirniadol’ y llywodraeth ac arianwyr eraill, fel ni? Mae gwir angen am amrywiaethu ffrydiau incwm trydydd sector a denu pobl gyda’r sgiliau iawn i wirfoddoli a gweithio dros fudiadau trydydd sector i ymdrin â’r heriau pwysig hyn.

All cymunedau wneud mwy?

Mae hanes cryf o weithredu cymdeithasol yng Nghymru. Talwyd am lawer o neuaddau’r gweithwyr ac ysbytai gan gymunedau gwaith glo trwy danysgrifiadau. Roedd yn fodel a ddylanwadodd ar flynyddoedd cynnar y Wladwriaeth Les, gan helpu meithrin ymdeimlad o gymuned a phrofiad a rennir sy’n amlwg o hyd mewn rhai rhannau o Gymru heddiw. Ond y cymunedau hyn hefyd yw’r rhai sydd wedi profi’r newidiadau mwyaf ac ergydion economaidd y degawdau diweddar, a dyma ble y deuir o hyd i lawer o’r anghenion presennol. I ba raddau y gellir disgwyl y bydd y cymunedau hyn yn ymgymryd â mwy o rôl arweiniol, a pha gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i alluogi nhw i wneud hyn?

Mae eraill yn siŵr o fod â’u cwestiynau eu hunain. Er mai ni sy’n cychwyn y sgwrs, nid ydym yn berchen arni. Mewn partneriaeth â Sefydliad Bevan, byddwn yn lansio’r sgwrs yn y Senedd ar 24 Tachwedd, a byddwn yn cynnal cyfres o sgyrsiau dilynol ar draws Cymru.

Cliciwch yma os hoffech gymryd ran yn y drafodaeth